Amdanom Ni
Rydym yn un o brif gwmnïau Gogledd Cymru a Swydd Gaer, ac rydym yn darparu cyngor arbenigol a chyfeillgar i gleientiaid lleol a chenedlaethol am amrywiaeth o faterion cyfreithiol.
Rydym yn annibynnol ac yn gweithredu er budd gorau ein Cleientiaid. Hoffem ddiolch i’n Cleientiaid ffyddlon ac i bawb sydd wedi ein hargymell i berthynas, ffrind neu gydweithiwr. Mae nifer o sefydliadau’n ceisio eich cyfeirio at eu Cyfreithiwr eu hunain, ac yn aml cânt gomisiwn neu ffi cyfeirio am wneud hynny. Rydym yn falch dros ben o ddibynnu ar ein enw da a’n hunplygrwydd ac nid ydym byth yn sefydlu unrhyw drefniadau cyfeirio ariannol â neb am gyflwyno rhywun i’r cwmni.
Rydym wedi ein rhestru yn y llyfr ymchwil annibynnol “Legal 500” fel un o’r 500 darparwr cyngor cyfreithiol arbenigol gorau.
Yn Allington Hughes, rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau hanesyddol. Dechreuodd y cwmni’n ôl yn 1826 pan sefydlodd Thomas Hughes fusnes fel Cyfreithiwr yn Wrecsam. Ar ôl nifer o flynyddoedd, newidiodd enw’r cwmni i Allington Hughes a Bate, ac yn 1986 unodd Allington Hughes a Bate â David Hughes and Co, cwmni a sefydlwyd yng Nghaer yn 1912. Galwyd y practis wedi’i uno’n Allington Hughes, a oedd yn ffordd gyfleus i barhau i gydnabod y ddau enw blaenorol. Mae’r cwmni wedi parhau i dyfu ac yn 2010, unodd Allington Hughes â David Spalding, Cyfreithiwr.
Mae ein henw da wedi esblygu am dros 180 o flynyddoedd oherwydd ein hymrwymiad i sicrhau bod y cyngor cyfreithiol a rown i’n cleientiaid yn arbenigol, yn effeithlon ac yn ymarferol, a hynny am bris rhesymol.
Mae Allington Hughes yn falch o’u cynllunio olyniaeth i sicrhau hirhoedledd y cwmni. Mae gan y cwmni unarddeg Partner a dros hanner cant o aelodau staff mewn dwy swyddfa yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer. Byddwn yn parhau i’r dyfodol ag ethos hir-sefydlog y cwmni o feithrin doniau lleol a chyflwyno gweithwyr newydd dros amser i sicrhau bod ein hymgynghorwyr ni ar flaen y gad yn eu meysydd arbenigol.
Rydym yn falch hefyd o fod yn aelodau o nifer o gynlluniau achredu. Dynodir aelodaeth o gynllun achredu gan logo tic gwyrdd. Mae’n golygu bod aelod o’r cwmni wedi dangos cymhwysedd arbennig yn y maes cyfraith dan sylw.
Oriau Busnes
Mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 8.45yb a 5.15yh ddydd Llun i ddydd Gwener, a gallwn drefnu apwyntiadau tu allan i’r oriau hyn.
Allington Hughes – cwmni hir-sefydlog sy’n cynnwys cyngor cyfeillgar, effeithlon ac ymarferol.
Cyfreithwyr am Oes