Cyfreitha Sifil
Mae ein tîm Cyfreitha Sifil yn cynnwys John Partington, sydd wedi bod yn Bartner yn y cwmni er 1984, a'r Twrnai Elizabeth Emmington, sydd ill dau wedi'u lleoli yn ein swyddfa yng Nghaer, ac Alison Stace a Tracey Powell, sydd ill dwy'n Gymrodorion Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol, wedi'u lleoli yn ein swyddfa yn Wrecsam. Cânt gefnogaeth lawn gan ddwy Ysgrifenyddes Gyfreithiol, sef Linda Jones a Joan Woodfinden. Mae'r wybodaeth eang sydd gan y tîm yn golygu y gall ddelio ag amrywiaeth eang o faterion, ac mae ganddo lawer o brofiad o weithredu dros gleientiaid masnachol a phreifat.
Mae'r fath brofiad o fewn ein tîm Cyfreitha Sifil yn golygu y gall symud ymlaen ag achosion yn y modd mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol a chydwybodol. Mae gan ein holl ymgynghorwyr brofiad helaeth yn y Llys. Byddwn yn defnyddio gwasanaethau cyfryngu neu gyflafareddu os yw'n debygol y byddant o fudd i chi.
Mae gennym Gontract Lles Cymdeithasol gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol sy’n ein galluogi i roi cyngor a chymorth yn ymwneud â Thai a Dyledion i gynnwys cynrychioli yn y Llys, yn amodol ar brofion modd. Gallwn gynorthwyo cleientiaid sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus dan y Cynllun Cymorth Cyfreithiol a Chymorth yn y Llys.
Gall ein tîm pwrpasol eich helpu ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys anghydfodau’n ymwneud â thir neu nwyddau, materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth a budd manteisiol mewn tir, hawliau tramwy, hawddfreintiau a ffiniau. Mae ein tîm yn ymgymryd â phob agwedd ar waith asiantaeth gan gynnwys bod yn bresennol yn y Llys. Gallwn hefyd eich helpu â gwasanaethau eraill gan gynnwys:
- Materion Defnyddwyr ac Anghydfodau Contract
- Adennill Dyledion
- Landlordiaid a Thenantiaid a Thai
- Esgeulustod
- Methdaliad
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag ymgynghorwyr arbenigol ein Tîm Cyfreitha Sifil ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Sylwedau gan Gleientiaid
"Cyfeillgar, caredig, dibynadwy a gweithgar."
"Roedd y gwasanaeth yn eithriadol."
Ein Penaethiaid Adran ar gyfer
Cyfreitha Sifil yw:
John Partington
Gweld Holl Aelodau'r Tîm
I weld holl aelodau'r tîm Cyfraith Sifil, cliciwch yma.
