Eiddo
Prynu a Gwerthu Tai
Yng nghwmni Cyfreithwyr Allington Hughes, mae gennym gyfoeth o brofiad ac arbenigedd o ran delio ag eiddo preswyl ac eiddo masnachol. Nid ydym yn dibynnu ar “weithwyr achos” a gallwch fod yn siŵr y byddwn yn defnyddio dull personol. Bydd cyfreithiwr penodol ag arbenigedd yn y maes yn delio â’ch ffeil, a bydd yn gallu eich arwain yn bersonol drwy’r broses.
Os ydych chi’n gleient masnachol ag angen cytundebau prydles cymhleth, neu’n brynwr tro cyntaf yn bwriadu camu ar yr ysgol eiddo, gofalwch eich bod yn cael arbenigedd a phrofiad er mwyn sicrhau bod eich buddiannau’n cael eu hamddiffyn ar bob cam yn y broses. Yn Allington Hughes, gallwn gynnig gwasanaeth wedi’i deilwra sy’n rhoi’r cyfarwyddyd personol y mae ei angen arnoch am faterion pwysig o’r fath.
Mae Allington Hughes yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn achrediad Cynllun Trawsgludiadau Safonol Cymdeithas y Gyfraith (CQS sef Conveyancing Quality Scheme), cynllun sy’n cydnabod gwaith o safon uchel mewn trawgludiadau eiddo preswyl. Mae’r achrediad yma yn gydnabyddiaeth gan Gymdeithas y Gyfraith o’n hymroddiad i ddarparu gwasanaeth effeithlon o safon uchel i’n cleientiaid a’n ymarferion rheolaethau arbennig.
Rydym yn cynnig cyngor am y gwasanaethau canlynol:
- Landlordiaid a Thenantiaid Masnachol
- Prynu neu Werthu Eiddo Masnachol
- Landlordiaid a Thenantiaid Preswyl
- Prynu neu Werthu Eiddo Preswyl
I gael mwy o wybodaeth am broses Prynu a Gwerthu eiddo preswyl, gweler ein Canllaw i Brynu Cartrefi (ymddiherwn nad yw ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd).
Os oes gennych chi ymholiad am eich eiddo, cysylltwch ag ymgynghorwyr arbenigol ein Tîm Trawsgludo ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Sylwadau gan Gleientiaid
"O'n profiad ni, fydden ni ddim yn ystyried mynd i unlle arall am gyngor cyfreithiol."
"Cafodd y mater ei ddelio yn gyflym, yn effeithiol ac yn broffesiynol."
Ein Penaethiaid Adran ar gyfer
Eiddo yw:
Ian Edwards
Gweld Holl Aelodau'r Tîm
I weld holl aelodau'r tîm Eiddo, cliciwch yma.
