Cyfraith Trosedd
Mae llawer o bobl o’r farn mai Allington Hughes yw un o gwmnïau cyfraith trosedd gorau Gogledd Cymru. Mae ein Tîm Troseddol wedi’i asesu yng Nghategori Un – Rhagoriaeth (y categori uchaf) mewn adolygiad annibynnol gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Dim ond 2 gwmni yng Nghymru a gyflawnodd hyn, a dim ond 17 ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r tîm sy’n gweithio i’n holl swyddfeydd wedi’i leoli yn Wrecsam, ac mae’n darparu cymorth mewn Gorsafoedd Heddlu a chynrychiolaeth mewn Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron ledled yr ardal.
Arweinydd ein tîm gwybodus a phrofiadol yw Melissa Griffiths, sydd wedi’i hargymell gan y Legal 500. Mae Melissa wedi’i phenodi’n Gyfreithiwr Adfocad (Llysoedd Troseddol Uwch). Gall hi ymddangos ym mhob achos troseddol yn Llys y Goron neu mewn Llysoedd Uwch a gynhelir o ganlyniad i unrhyw achos troseddol.
Rydym yn delio â phob math o achosion, ac rydym yn ymroddedig i ddarparu’r cyngor a’r gynrychiolaeth orau posib, gan ddeall bod ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol yn gallu bod yn brofiad anodd i’n cleientiaid ac y gall beri straen iddynt.
Bydd aelod o’n tîm yn gallu eich cynorthwyo â’r canlynol
- Cynrychiolaeth mewn Gorsaf Heddlu
- Cynrychiolaeth mewn Llysoedd Ynadon a Llysoedd Ieuenctid
- Cynrychiolaeth yn Llys y Goron
- Ymchwiliadau i Dwyll Budd-daliadau
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag ymgynghorwyr arbenigol ein Tîm Troseddol ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Sylwadau gan Gleientiaid
"Byddwn yn sicr yn defnyddio eich gwasanaethau eto yn y dyfodol petawn eu hangen."
"Gwasanaeth proffesiynol iawn. Roeddwn yn deall popeth."
Ein Penaethiaid Adran ar gyfer
Cyfraith Trosedd yw:
Melissa Griffiths
Gweld Holl Aelodau'r Tîm
I weld holl aelodau'r tîm Cyfraith Trosedd, cliciwch yma.
