Newyddion Allington Hughes
Clinigau Cyfreithiol Di-dâl yng Nghanolfan Tarporley:-
Mae Allington Hughes yn cynnal clinigau Cyfreithiol galw heibio di-dâl yng nghanolfan gymunedol Tarporley ar ddydd Iau cynta'r mis rhwng 4.30yh a 6.30yh. Mae'r clinigau yn cynnig cyngor cyfreithiol cyffredinol yn ddi dâl. Bydd y clinig nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau Mai 3ydd 2012 rhwng 4.30yh a 6.30yh. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'n staff yn y swyddfa yng Nghaer ar 01244 312166.
Mai 2012.
Diwrnod Agored Landlordiaid a Thenantiaid Wrecsam a Sir y Fflint 2012:-
Roedd Allington Hughes yn rhan o Ddiwrnod Agored blynyddol Landlordiaid a Thenantiaid Wrecsam a Sir y Fflint yng Nghanolfan Gynadleddau Catrin Finch ym Mhrifysgol Glyndwr ar Ebrill 24ain unwaith eto eleni.
Roedd John Partington, Pennaeth yr Adran Cyfraith Sifil, yn rhoi cyflwyniad ar y goblygiadau cyfreithiol i landlordiaid a thenantiaid o gynllun trwyddedu ychwanegol Wrecsam. Roedd Smartwater, Nwy Prydain a Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid hefyd yn cyflwyno.
Dywedodd John, sydd wedi cyflwyno mewn fforymau Landlordiad blaenorol, "Rydym yn hynod o falch o dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad yma. Mae Allington Hughes bob amser yn barod i gynorthwyo mewn amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â landlordiaid a thenantiaid, o ddrafftio a pharatoi prydlesau a chytundebau tenantiaeth, i gynrychioli landlordiaid a thenantiaid mewn achosion meddiannu, achosion yn ymwneud â adfeiliad tai neu faterion o drwyddedu tai mewn aml-feddiannaeth".
Os ydych chi yn landlord neu denant ac angen cymorth neu gynrychiolaeth, cysylltwch gyda’r ymgynghorwyr arbennigol yn ein hadran Cyfraith Sifil ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Ebrill 2012.
Llwyddiant gyda Achrediad Lexcel i Allington Hughes:-
Mae Allington Hughes yn Wrecsam a Chaer wedi sicrhau achrediad Lexcel gan Gymdeithas y Gyfraith; achrediad sy’n cael ei ddyfarnu i gyfreithwyr sy’n llwyddo i gyrraedd safon uchel o reolaeth a gofal cwsmeriaid.
Bu’n rhaid i Allington Hughes lwyddo mewn asesiad anibynnol gan Gymdeithas y Cyfreithwyr er mwyn sicrhau’r achrediad Lexcel; roedd yr asesiad yn edrych oedd y cwmni yn cyrraedd y safon rhagorol angenrheidiol mewn meysydd megis gofal cleientiaid, rheolaeth achosion a rheolaeth risg.
Dywed Alison Brebner, Partner Rheolaeth y cwmni, “Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau achrediad Lexcel. Mae’n gydnabyddiaeth o’r safon uchel rydym yn ei ddarparu a’r rhai fydd yn cael bendith yr achrediad yma fydd y cleientiaid sy’n defnyddio’n gwasanaethau. Mae’r wobr o achrediad yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gennym i’n cleientiaid a’r gymuned a’n dymuniad i sicrhau gwasanaeth rhagorol ar gyfer y dyfodol”.

Mawrth 2012
Cyfraith Sifil Allington Hughes - 2012
Mae'r Nadolig wedi bod a rydym ar drothwy Blwyddyn Newydd lle mae'r hinsawdd economaidd yn argoeli i fod yn heriol unwaith eto.
Yma yn Allington Hughes, gobeithiwn y bydd 2012 yn ddisglair a ffyniannus i'n holl gleientiaid a ffrindiau.
Os ydych angen cymorth yn erlyn arian sy'n ddyledus i chi, neu os ydych yn cael eich erlyn am swm nad ydych yn atebol iddo neu os ydych yn cael trafferth i dalu'r taliadau morgais neu rhent, maen tim Cyfraith Sifil yn barod i gynnig cyngor arbennigol, ymarferol er mwyn eich cynorthwyo i gael datrysiad buan, yn ol eich dymuniad.
Am fwy o wybodaeth am ein tim Cyfraith Sifil a'r gwaith mae nhw'n ei wneud, ewch i www.allingtonhughes.co.uk/cyfreithwyr/civil-law.php
Ionawr 2012.
Cynllun Trawsgludiadau Safonol Cymdeithas y Gyfraith:-
Mae Allington Hughes yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn achrediad Cynllun Trawsgludiadau Safonol Cymdeithas y Gyfraith (CQS sef Conveyancing Quality Scheme), cynllun sy’n cydnabod gwaith o safon uchel mewn trawgludiadau eiddo preswyl.
Mae’r achrediad yma yn gydnabyddiaeth gan Gymdeithas y Gyfraith o’n hymroddiad i ddarparu gwasanaeth effeithlon o safon uchel i’n cleientiaid a’n ymarferion rheolaethau arbennig.
DywedoddIan Edwards, pennaeth yr adran Eiddo “Mae Allington Hughes yn ymfalchio yn ein gallu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’n cleientiaid yn ein holl adrannau. Mae’r asesiad o dan y Cynllun Trawsgludiadau Safonol yn cynnwys ystyriaeth drwyadl o gofnod gwasanaeth a threfn y ffyrm; rydym yn hynod o falch o dderbyn cadarnhad annibynnol ein bod yn llwyddo yn ein amcan o gynnig gwasanaeth o safon uchel i’n cleientiaid.”
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr uchod, neu os hoffech chi gael cyngor cyffredinol gan ein hadran Eiddo, cysylltwch gyda’n cynghorwyr arbennigol ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Rhagfyr 2011.
Cyhoeddiad gan y Llywodraeth am newidiadau yng Nghyfraith Cyflogaeth:-
Mae Cyfraith Cyflogaeth yn newid yn gyson. Fydd y flwyddyn nesaf yn ddim gwahanol. Yn wir, byddwn yn gweld newidiadau mawr i Gyfraith Cyflogaeth yn 2012 yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth ar sut mae’n bwriadu addasu’r system o ddatrys anghydfodau yn y gweithle.
Rhai o’r prif gynnigion am newid ydi:-
Cynyddu’r cyfnod cymhwyso o un flwyddyn i ddwy flynedd ar gyfer gwneud honiad o ddiswyddo anheg
Bydd rhaid i bob cais gael ei gyflwyno i ACAS ar gyfer cyfyngiad cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Tribiwnlys Cyflogaeth
Bydd ffioedd am gyflwyno ac am erlyn yn y Tribiwnlys Cyflogaeth
Cyflwyno “sgwrs wedi ei gwarchod” fydd yn galluogi cyflogwyr i gael sgwrs gyda staff am ymddeoliad neu berfformiad gwael yn y gwaith gan wybod na fydd gweithwyr yn gallu dibynnu ar y sgyrsiau hynny mewn unrhyw honiad yn y Tribiwnlys
O ganlyniad i’r diwygiadau hyn, a newididau eraill sydd ar y gweill, byddem yn cynghori cyflogwyr a chyflogai / gweithwyr i gael cyngor cyfreithiol buan ynghylch unrhyw anghydfod yn y gweithle. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu cynghori ar sut mae’r newidiadau mewn Cyfraith Cyflogaeth yn eu heffeithio a hynny cyn iddyn nhw weithredu ar y mater.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y diwygiadau a sut y gallen nhw effeithio arnoch chi, neu os hoffech chi gael cyngor ar unrhyw fater cyflogaeth, cysylltwch gyda’r arbennigwyr yn ein hadran Cyflogaeth ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Rhagfyr 2011.
Cyhoeddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ohirio’r newidiadau i’r system Cymorth Cyfreithiol:-
Mae Cyfreithwyr Allington Hughes yn falch o gyhoeddi fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gohirio gweithredu’r rheolau newydd ynghlych Cymorth Cyfreithiol (Legal Aid) mewn materion Sifil a Theulu am chwe mis; yn wreiddiol roedden nhw i ddod i rym yn Hydref 2012 ond mae’r amserlen wedi ei gohirio hyd nes Ebrill 2013. Yn ol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y rheswm am y gohiriad yma o chwe mis yw er mwyn rhoi amser i’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol dendro o dan y rheolau newydd sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod yn y Llywodraeth yn San Steffan fel rhan o’rBil ar gyfer Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr.
Yn ogytsal a hyn, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gohirio’r trafod ar dendro cystadleuol ar gyfer gwaith Cyfraith Troseddol hyd nes Hydref 2013m gyda’r tendro cyntaf wedi ei ddisgwyl yn 2014.
Rydym ni yn Allington Hughes yn ymfalchio ein bod yn un o’r ychydig gwmniau yng Ngogledd Cymru sydd wedi eu hargymell yn y Legal 500 sy’n gallu cynnig Gwasanaeth Cyfreithiol o safon i bawb yn ein cynmdeithas. Mae’r ffaith fod y rheolau newydd wedi eu gohirio yn golygu ein bod yn gallu parhau i wneud hyn.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth a gweld os ydych chi yn gymwys am Gymorth Cyfreithiol (Legal Aid) ar gyfer materion Teulu, Sifil neu Gyfraith Droseddol, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ein hadrannau yn gyffredinnol, cysylltwch gyda’n cynghorwyr arbennigol ar 01978 291000 (Wrecsam) neu 01244 312166 (Caer).
Rhagfyr 2011.
Mae Allington Hughes yn noddi Cyngerdd Nadolig Hosbis Ty’r Eos yn Wrecsam:-
Mae Allington Hughes yn falch o gael gyhoeddi ein bod yn noddi Cyngerdd Nadolig Hosbis Ty’r Eos nos Sadwrn Rhagfyr 10fed 2011 yn Eglwys Sant Giles, Wrecsam. Bydd Cor Meibion y Rhos yn cymryd rhan yn y cyngerdd.
DywedoddDavid Parry, Partner yng Nghyfreithwyr Allington Hughes “Ar ran y Partneriaid a’r staff yn Allington Hughes rydw i’n falch iawn fod ein cwmni ni unwaith eto yn cael cyfle i gefnogi Ty’r Eos a’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yno, yn arbennig felly ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Mae’n achos sy’n agos at galon cymaint o bobol Wrecsam a’r cyffiniau sy’n cyffwrdd bywydau cymaint o deuluoedd ymhell ac agos. Mae’r Cyngerdd hwn yn gyfle i gynulleidfa Wrecsam ddangos ei chefnogaeth gwirioneddol i Hosbis Ty’r Eos a gwn y bydd yn noson arbennig i bawb.”
Os hoffech chi fynychu’r cyngerdd, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Rhagfyr 2011.
Byddwch ofalus dros gyfnod y Nadolig:-
Mae’r Nadolig hyd nes y Flwyddyn Newydd yn gyfnod o bartion a chymdeithasu, heb anghofio’r parti gwaith. Mae hefyd yn gyfnod sy’n gallu cael goblygiadau difrifol i yrrwyr, oherwydd bydd yr Heddlu yn lawnsio eu hymgyrch flynyddol ar Yfed a Gyrru.
Cydweithiodd ein hadrannau Cyfraith Troseddol a Chyfraith Cyflogaeth i wneud erthygl i bapur lleol ar y peryglon o yfed a gyrru a chyfrifoldeb cyflogwr am ei weithwyr yn ystod y parti nadolig. Darllenwch yr erthygl ar y linc yma (ymddiheurwn ei fod yn Seasneg yn unig).
Tachwedd 2011.
Allington Hughes yn ennill cytundeb Gwasanaethau Cyfreithiol teuluol ar gyfer ein swyddfeydd yn Wrecsam a Chaer:-
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi ein llwyddiant diweddar yn y bidio ar gyfer cytundeb i gynnig Cymorth Cyfreithiol ynglyn a phob agwedd o waith teuluol.
Fel un o’r prin gwmniau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr i gael ein hargymell yn y Legal 500, rydym am barhau i sicrhau ein bod yn gwasanaethu’r gymdeithas gyfan, ac y gallwn gynnig Gwasanaethau Cyfreithiol “Legal Aid” i rai sy’n gymwys.
Os bydd angen cyngor arbennigol arnoch ar unrhyw fater teuluol, ac am gael eich hasesu ar gyfer cymorth “Legal Aid”, cysylltwch heb oedi a ni yn Wrecsam 01978 291000 neu yng Nghaer 01244 312166.
Tachwedd 2011.
Cyflwyniad ar Ewyllysiau i weithwyry GIG:-
Mae Cyfreithwyr Allington Hughes yn falch o gyhoeddi llwyddiant Steve Davies, Pennaeth yr adran Ewyllysiau a Phrofiant, a Karl Beckett, Cyfreithiwr yn yr un adran, yn traddodi sgwrs addysgiadol ar Ewyllysiau ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar Dachwedd 15fed 2011.
Roedd y cyflwyniad yn delio gyda ystod eang o faterion gan gynnwys y rhesymau dros wneud Ewyllys a’r amrywiol gwestiynnau sy’n codi yn ystod y broses o wneud Ewyllys. Un o’r prif bethau ddaeth allan o’r sgwrs oedd y pwysigrwydd o ddefnyddio Cyfreithiwr sy’n aelod llawn o STEP (“the Society of Trust and Estate Practitioners”) a’r mudiad Cyfreithwyr i’r Henoed (“Solicitors For the Elderly”). Mae Steve a Karl yn aelodau llawn o STEP ac mae Karl yn aelod o Gyfreithwyr i’r Henoed hefyd.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am wneud Ewyllys, neu unrhyw wasanaeth y gallwn eu cynnig, cysylltwch gyda’n cynghorwyr arbennigol yn ein hadran Ewyllysiau a Phrofiant ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Tachwedd 2011.
Cyngor Cyflogaeth Di-dâl yn ein clinigau ddwywaith yr wythnos:-
Rydym yn cynnig clinigau di-dâl yn ein swyddfeydd yn Wrecsam a Chaer i ddelio gyda materion Cyflogaeth.
Mae'r clinigau yn cael eu cynnal yn ein swyddfa yn Wrecsam bob dydd Llun rhwng 9.30yb a 12.30yp a phob dydd Mawrth yng Nghaer. Mae siaradwr Cymraeg ar gael yn ein clinig yng Nghaer.
Os am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda aelod o'n hadran Cyflogaeth ar Wrecsam 01978 291000 neu Caer 01244 312166.
Tachwedd 2011.
Goleuo'r Gogledd, Tachwedd 4ydd, 2011:-
Rydym yn falch iawn o adrodd ini gael diwrnod llwyddiannus yn nigwyddiad Goleuo'r Gogledd 2011 yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Gwener Tachwedd 4ydd. Hoffem gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r rhai fu’n ymweld â’n stondin ac i longyfarch y trefnwyr. Roedd yn gyfle gwych i fusnesau'r ardalddod at ei gilydd a ffocysu ar ddyfodol masnach yng Ngogledd Cymru.
Tachwedd 2011

Fforwm Busnes yr Wyddgrug, Hydref 10fed 2011:-
Rydym yn falch iawn o adrodd ini gael noson lwyddiannus yn Fforwm Busnes yr Wyddgrug nos Lun Hydref 10fed 2011. Hoffem gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r rhai fu’n ymweld â’n stondin ac i longyfarch y trefnwyr. Hoffem hefyd longyfarch ennillydd lwcus y siocled a’r champagne yn raffl Allington Hughes.
Hydref 2011.
Cydnabyddiaeth unwaith eto i Allington Hughes gan y “Legal 500”:-
Rydym yn falch o gyhoeddi fod Allington Hughes wedi cael ei gydnabod unwaith eto eleni gan y “Legal 500”, sy’n cael ei ystyried fel yr arolwg mwyaf cyflawn o’r proffesiwn cyfreithiol, fel un o’r darparwyr gorau am gyngor cyfreithiol arbennigol. Mae Allington Hughes wedi cael ei ddisgrifio fel un o’r cwmniau mwyaf blaengar yng Ngogledd Cymru a’n bod hefyd yn weithgaryng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae ein hadrannau Cyfraith Trosedd, Cyfraith Teulu, Cyfraith Cyflogaeth a gwaith Cleientiaid Preifat megis Ewyllysiau a Phrofiant wedi eu nodi yn benodol hefyd.
Mae’r gydnabyddiaeth yma’n andlewyrchu llwyddiannau’r cwmni dros y deuddeg mis diwethaf a’r ystod eang o arbennigedd sydd gennym i’w gynnig.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn gallu eu cynnig, cliciwch yma neu cysylltwch gyda ni ar 01978 291000 neu 01244 312166.
Hydref 2011.
Mae Allington Hughes yng Nghaer yn symud swyddfa:-
Ar Hydref 3ydd, 2011 bydd Allington Hughes Caer yn agor drysau eu swyddfa newydd yn 2 Vicars Lane, Caer CH1 1QX. Er gwaetha’r hinsawdd economaidd presennol, mae Allington Hughes yn parhau i dyfu; yn wir rydym bellach wedi tyfu yn rhy fawr i’n swyddfa cyfredol yn Newgate Walk, sydd dafliad carreg i ffwrdd o’r swyddfa newydd. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i Allington Hughes a gobeithiwn bydd ein swyddfa newydd, gyda’i adnoddau modern yn ein galluogi i gynnig gwell gwasanaeth i’n cleientiaid. Mae'r swyddfa yn2 Vicars Lane yn adeilad atyniadol gyda nodweddion cyfnod iddo, a chanddo ardd flaen. Mae wedi ei leoli yng nghanol Caer ar y system heol-ddolen a mae'n gwynebu Parc Grosvenor. Byddwn yn gallu cynnig llecynnau parcio ceir ar y safle newydd. Bydd ein rhif ffôn a’n rhif ffacs yn aros yr un peth.
Medi 2011.
Gwaharddiad ar ffioedd cyfeirio mewn achosion anafiadau personol:-
Oes ‘na Gwmni Rheoli Honiadau neu Gwmni Cyfreithwyr wedi cysylltu hefo chi ar ôl i chi gael damwain? Ydych chi erioed wedi meddwl dybed sut wnaethon nhw gael gafael ar eich manylion personol chi pan na wyddoch chi am fodolaeth y cwmni sy’n cysylltu hefo chi? Y gwir amdani yw fod Cyfreithwyr Anafiadau Personol wedi bod yn prynu eich manylion chi oddi wrth unrhyw un fyddai’n fodlon eu gwerthu nhw.
Ar Fedi 9fed 2010, cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei fwriad i wahardd beth elwir yn “ffioedd cyfeirio” mewn achosion o anafiadau personol er mwyn atal y diwylliant iawndâl.
Yn aml, ni fyddai unigolyn ddioddefodd anaf yn gwneud dim am y peth oni bai i Gwmni Honiadau gysylltu â nhw a dweud y bydden nhw’n cymryd yr achos ymlaen. Effaith hyn yw fod llawer o honiadau pitw yn cael eu gwneud gyda dim ond iawndâl bach yn cael ei dalu. Yn amlach na pheidio, mae ffioedd cyfreithiol yr ymarferyddyn fwy na’r iawndâl a chaiff y ffioedd hyn eu talu gan y parti sy’n colli’r achos. Mae achosion sy’n cael eu derbyn o dan Gytundeb Ffi Amodol (dim ennill, dim ffi (“no win, no fee”)) gyda “ffi llwyddiant” yn rhan ohonynt. Mae’r ffi llwyddiant yma yn golygu fod yr ymarferydd honiadau yn derbyn taliad ychwanegol ar ei gostau neu ei chostau h.y. gallant dderbyn i fyny at ddwbl cost yr honiad ei hun. Felly, nid yn unig fod eich manylion personol yn cael eu pasio ymlaen heb eich caniatâd, yn fwy na hyn, mae costau’r honiadau hyn a’r ffioedd cyfeirio yn golygu bod costau yswiriant wedi codi 30% yn y flwyddyn ddiwethaf.
Byddai Cwmniau Honiadau oedd yn dibynnu ar ffioedd cyfeirio yn delio gyda llawer iawn o honiadau am anafiadau personol a fyddai wedi golygu eu bod yn gwneud arian mawr.
Hoffem eich sicrhau nad ydym ni yn Allington Hughes yn rhan o’r arferiad o dalu ffioedd cyfeirio ac rydym yn ymfalchio fod yr arferiad hwnnw bellach wedi ei gydnabod yn anaddas.
Hoffem ddiolch i’n Cleientiaid ffyddlon ac i bawb sydd wedi ein hargymell i berthynas, ffrind neu gydweithiwr.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gydag aelod o’n tim Anafiadau Personol.
Medi 2011.
Tai: Cyngor Dinas Manceinion v Pinnock 2010:-
Roedd yr achos diweddar ‘Pinnock’ wedi ei gyfyngu i ddelio gyda materion ynglÅ·n âg israddio tenantiaethau ond mae un rhan yn sicr o gael ei herio sef tenantiaethau cychwynnol. Mae ynadenantiaethau profol sy'n debyg i denantiaethau agoriadol gaiff eu cynnig gan Awdurdodau Lleol. Nid ydi’r rheoleiddiadau sy’n gofyn am arolygu’r penderfyniad i ddiweddu tenantiaeth parthed tenantiaethau profol yn gymwys yma. Gall y Llysoedd nawr edrych ar y gyfranoldeb o wneud Gorchymyn Meddiant pan fo Diffynnydd yn dod â’r mater i sylw’r Llys.
Tydi hi ddim yn glir eto sut mae achos Pinnock am effeithio ar y defnydd o denantiaethau cychwynnol a tybier na fydd pethau yn glir hyd nes fydd y Llys Apêl wedi clywed achos ynghylch tenantiaethau cychwynnol. Er hyn, oherwydd achos Pinnock mae Diffynyddion â’r gallu i herio'r cyfranoldeb o wneud Gorchymyn Meddiant mewn achos o’r fath.
Mae Pinnock yn atgyfnerthu pwysigrwydd erthygl 8 y Ddeddf Hawliau Dynol sef yr hawl i gartref. Mae’r achos yn golygu fod y Llysoedd yn gallu cysidro ac asesu os oedd Landlord yn gyfatebol wrth ddadfeddiannu’r tenant o’r eiddo.
Tydi’r achos yma ddim yn effeithio landlordiaid preifat, ond gallai hyn newid; mae’n delio gyda achosion pan mai Awdurdod Cyhoeddus ydi’r landlord, Awurdod Lleol neu Gymdeithas Tai.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr erthygl hon, cysylltwch gyda Alison Stace neu Tracey Powell ar 01978 291000.
Medi 2011.
Sioe Dinbych a Fflint:-
Rydym yn falch iawn i adrodd ini gael diwrnod gwych ar faes Sioe Dinbych a Fflint ar Awst 18fed 2011. Hon oedd sioe gyntaf Allington Hughes ac rydym yn falch i’r diwrnod fod mor llwyddiannus. Bu’r tywydd yn help wrth gwrs! Hoffem ddiolch i’n cleientiaid a’n cyfeillion am eu cefnogaeth ac am ymweld â’r stondin; gobeithiwn i chi fwynhau’r croeso a’r sioe. Diolch hefyd i’n cyd-westeiwyr Wright Manley.
Awst 2011.
Cyfryngwr Teulu newydd yn Allington Hughes:-
Mae Cyfreithwyr Allington Hughes yn falch o gyhoeddi fod Jane ApThomas wedi cymhwyso yn Gyfryngwr Teulu (Family Mediator) wedi iddi ddilyn cwrs hyfforddiant gan Resolution.
Pwrpas Cyfryngiad (Mediation) yw i ddatrys anghydfodau teuluol mewn modd diwrthdaro drwy gymell y partion i drafod materion mewn cyfres o gyfarfodydd gyda’r Cyfryngwr yn hytrach na throi at y Llysoedd am benderfyniad. Proses gwbl wirfoddol ydi Cyfryngiad sy’n ceisio cael y partion i ystyried cyfaddawdu a chyrraedd cytundeb gyda’i gilydd. Y partion sydd â’r gair olaf, ond mae nhw’n cael eu cynorthwyo gan y Cyfryngwr sy’n hollol ddiduedd.
Mae Jane yn aelod profiadol o’n hadran Cyfraith Teulu. Mae’r adran yn delio gyda phob agwedd o Gyfraith Teulu gan gynnwys Cyfraith Gydweithredol (Collaborative Law) sydd â phwrpas tebyg i Gyfryngiad gan ei fod yn ffordd arall o ddelio â phroblemau priodasol heb gymorth y Llysoedd.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Gyfryngiad neu unrhyw agwedd arall o Gyfraith Teulu, cysylltwch gyda’n arbennigwyr yn yr adran Deulu ar 01978 291000 (Wrecsam) neu 01244 312166 (Caer).

Mehefin 2011.
Ymunwch â ni ar Facebook:-
Mae gan Allington Hughes dudalen Facebook.Ymunwch â ni ar Facebook drwy chwilio am "Allington Hughes Solicitors" ac adio'r cwmni fel ffrind.
Mehefin 2011.
Dau Gyfreithiwr Dyletswydd Newydd:-
Mae Emma Simmoes ac Ian Barnes ill dau wedi eu pennodi'n Gyfreithwyr Dyletswydd newydd, wedi system achredu drylwyr. Mae'r ddau yn gyfreithwyr yn ein hadran Cyfraith Droseddol ac maent eisoes yn cynnig cynrychiolaeth mewn llysoedd a chymorth 24 awr yn swyddfeydd heddlu'r ardal. Gall y ddau'n awr weithredu fel Cyfreithwyr Dyletswydd yn swyddfeydd yr heddlu yn ogystal a Llys yr Ynadon. Maent yn rhan o dim hynod brofiadol yn Allington Hughes. Yn wir, cafodd y tim ei benodi i statws "Category One - Excellence" mewn arolwg annibynol y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Dim on 17 cwmni yn y DU sydd wedi cyflawni hyn.
Meddai Melissa Griffiths, Pennaeth yr adran Cyfraith Droseddol: " Rwy'n hynod falch o lwyddiant Emma ac Ian, ac o ehangiad parhaus y Tim Cyfraith Troseddol yn Allington Hughes".
Os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch chi yn Swyddfa'r Heddlu, Llys yr Ynadon neu Llys y Goron, cysylltwch gyda ein Tim Cyfraith Troseddol ar 01978 291000.
Mehefin 2011.
Lansio Gwefan Newydd:-
Mae Cyfreithwyr Allington Hughes yn falch o gyhoeddi lansio gwefan newydd. Gobeithir y bydd y wefan ryngweithiol hon, sy’n hawdd ei dilyn, yn ddefnyddiol i gleientiaid presennol ac i ddarpar gleientiaid. Hoffem glywed eich barn am y wefan, a byddem yn croesawu unrhyw adborth drwy e-bost i ruthstorry@allingtonhughes.co.uk
Mai 2011.
Partner newydd yn Allington Hughes:-
Mae Allington Hughes yn falch o groesawu Partner newydd i'r busnes sydd yn cynyddu nifer y Partneriaid i unarddeg.
Mae Alison Stace, sy'n Gymrawd i Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (FILEX), wedi gweithio gyda chwmni Allington Hughes ers 2000. Hi yw un o'rGweithredwyr Cyfreithiol cyntaf i gael ei dyrchafu'n Bartner mewn cwmni Cyfreithwyr; dengyshyn y parchsydd iddi gan y Partneriaid, ei chyd-weithwyr a chleientiaid.
Yn enedigol o Wrecsam mae Alison hefyd yn gweithio yn y swyddfa yn Wrecsam. Mae hi'n delio gyda materion cyfraith sifil, anghydfodau teulu a phroblemau cartrefu. Bydd Alison yn gyfrifol am ein cytundeb cymorth cyfreithiol er mwyn sicrhau fod Allington Hughes yn parhau i ddarparu gwasanaeth yn defnyddio arian cyhoeddus i gleientiaid sydd angen cyngor ar broblemau yn ymwneud â Theulu, Throseddu, Anheddau, Budd-daliadau ac Incwm a Dyledion.
Dymunwn yn dda i Alison.

1af Mai 2011.