Ewyllysiau a Phrofiant

Mae Allington Hughes yn falch o’u tîm Ewyllysiau a Phrofiant. Caiff ei gydnabod gan y Legal 500, sef beibl y diwydiant, ac rydym yn cynnig tîm profiadol a gwirioneddol arbenigol sy’n cynnwys dau aelod llawn o Gymdeithas yr Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (STEP). Mae STEP yn gorff proffesiynol unigryw, a gallwch fod yn dawel eich meddwl gan wybod bod ei aelodau wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr am gynghori cleientiaid am fusnes cyffredinol rheoli arian personol.

Mae gan bob un o’n meysydd gwasanaeth ei gymhlethdod ei hun, ac rydym yn deall mai ein swyddogaeth ni yw eich arwain drwy’r broses o roi trefn ar eich materion (er enghraifft drwy Ewyllys neu Bŵer Atwrnai Arhosol) neu efallai eich helpu ar yr adeg anoddaf, drwy golli anwyliaid neu helpu perthynas sy’n fethedig mewn rhyw ffordd.

Mae ein tîm yma i’ch cynghori chi. Eich dewis chi’n unig fydd faint o’r gwaith a wnawn ni, a faint y dewiswch ei wneud eich hun.

Beth bynnag yw eich amgylchiadau personol, mae ein tîm pwrpasol dan arweiniad Steven Davies mewn sefyllfa i’ch helpu drwy gydol y broses.

Dyma’r gwasanaethau a ddarperir gan ein tîm:

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag ymgynghorwyr cyfreithiol ein tîm Ewyllysiau a Phrofiant ar 01978 291000 neu 01244 312166.


Sylwadau gan Gleientiaid ynghylch profiant

"Cefais fy nhrin gyda dealltwriaeth gan yr holl bobl i mi eu cyfarfod. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i mi 'mod i'n gallu dibynnu ar eich cyngor ar adegau anodd bywyd. Diolch."

Sylwadau gan Gleientiaid ynghylch ewyllysiau

"Ni allech chi wella eich gwasanaeth."

"Cefais eglurhad cwrtais, deallus a meddylgar o'r dewisiadau posib a'u canlyniadau."


Ein Penaethiaid Adran ar gyfer
Ewyllysiau a Phrofiant yw:

Steve Davies

Steve Davies ar gyfer tîm Ewyllysiau a Phrofiant

Gweld Holl Aelodau'r Tîm

I weld holl aelodau'r tîm Ewyllysiau a Phrofiant, cliciwch yma.