Gweithio i Allington Hughes

Yn Allington Hughes, rydym yn dîm sy’n cydweithio’n agos mewn awyrgylch gwaith cynnes a chefnogol. Rydym yn cynnig rhagolygon rhagorol i’r ymgeiswyr cywir; mae saith o’n deg Partner presennol wedi bod gyda’r cwmni ers eu contractau hyfforddi neu eu herthyglau.

Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol isod, ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Swyddi Gwag Contractau Hyfforddi

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chofnod academaidd cryf, a chysylltiadau â’r ardal leol.

Swyddi Gwag Staff Cefnogi

Nid oes gennym swyddi gwag ar hyn o bryd.

Swyddi Gwag Eraill

Nid oes gennym swyddi gwag ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau ar hap unrhyw bryd, a byddwn yn cadw manylion ymgeiswyr addawol ar ffeil ar gyfer unrhyw swyddi gwag yn y dyfodol. Mae croeso i chi anfon eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol at ein Rheolwr Ymarfer, Ruth Storry, sydd wedi’i lleoli’n bennaf yn Swyddfa Wrecsam yn 10 Stryd Grosvenor, Wrecsam Ll11 1SD, neu drwy anfon e-bost i ruthstorry@allingtonhughes.co.uk.